Mewngofnodi
Wedi anghofio cyfrinair?

Telerau ac Amodau

HYB BUSNES BLAENAU GWENT
TELERAU DEFNYDD
GOFYNNIR I CHI DDARLLEN Y TELERAU A'R AMODAU HYN YN OFALUS CYN DEFNYDDIO'R SAFLE YMA

TELERAU DEFNYDDIO'R WEFAN

Mae'r telerau defnydd hyn (ynghyd â'r dogfennau y cyfeirir atynt ynddynt) yn dweud wrthych am y telerau defnydd ar gyfer i chi ddefnyddio ein gwefan www.blaenaugwentbusinesshub.com, sy'n nodi'r telerau yr ydym yn prosesu unrhyw ddata bersonol a gasglwn gennych, neu yr ydych yn ei rhoi i ni. Drwy ddefnyddio'r Safle yma, rydych yn caniatau prosesu o'r fath a gwarantwch fod yr holl ddata a roddwch yn gywir.

• Mae ein Polisi Cwcis yn nodi'r wybodaeth am y cwcis a ddefnyddir y safle yma.

GWYBODAETH AMDANOM NI

Mae  www.blaenaugwentbusinesshub.com yn safle sy'n eiddo i Gyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent ac a weithredir ganddo.

• Mae Hyb Busnes Blaenau Gwent yn llwyfan cymorth busnes ar-lein sy'n galluogi defnyddwyr i ddarganfod a dodi cyfleoedd busnes a digwyddiadau am ddim a chysylltu gyda gwybodaeth berthnasol i fuddiannau busnes unigol. 
• Pan gofrestrwch i ddod yn Aelod (diffiniad islaw), gofynnir i chi nodi eich bod yn derbyn y Telerau hyn drwy glicio'r botwm 'Derbyn'. P'un bynnag a ph'un ai ydych yn Aelod ai peidio, drwy fynd i mewn neu ddefnyddio'r safle, y Gwasanaethau neu unrhyw feddalwedd gysylltiedig, cytunwch i gydymffurfio gyda'r Telerau hyn. Os nad ydych yn derbyn y Telerau hyn yn llawn, mae'n rhaid i chi roi'r gorau i ddefnyddio'r Safle ar unwaith.
• Cyfeirir y Safle at ddefnyddwyr sy'n byw yn y Deyrnas Unedig yn unig. Ni chaiff ei gyfeirio at unrhyw berson mewn unrhyw wlad lle am unrhyw reswm mae cyhoeddiad neu argaeledd y Safle yn cael ei wahardd ac nid ydym yn cynrychoili bod un ai'r Safle na'i gynnwys yn briodol i'w defnyddio neu'n cael ei ganiatau gan gyfreithiau pob gwlad. Defnyddiwch y Safle hwn ar eich risg eich hun os ydych yn breswyl mewn gwlad tu allan i'r Deyrnas Unedig.
DIFFINIADAU
Bydd y diffiniadau dilynol yn weithredol ar gyfer dibenion y Telerau hyn:
Bydd "y Gwasanaeth(au)" yn golygu darparu mynediad i gynnwys, gwybodaeth, deunydd, meddalwedd ac unrhyw wasanaethau a swyddogaethau eraill a ddarperir drwy'r Safle fel cafodd ei newid a/neu ei diweddaru o bryd i'w gilydd.
Bydd "Aelod" yn golygu'r unigolyn, partneriaeth, cwmni neu gorff arall sy'n gwneud cais i restru eu manylion ar y Safle neu sydd wedi cofrestru eu manylion ar y Safle, yn cynnwys unigolion neu sefydliadau sydd wedi cofrestru a lanlwytho cynnwys.

Bydd "Defnyddiwr" yn golygu unrhyw unigolyn (p'un ai'n Aelod ai peidio) sy'n defnyddio'r Safle am ba bynnag ddiben.
Bydd "Rhestriad/au" yn golygu'r holl wybodaeth o unrhyw fath a ddangosir ar y safle a baratowyd gan neu ar ran Aelod, Fideos, Dogfennau, Tudalennau Proffil a phob gwybodaeth arall a gaiff ei dodi ar y safle gan neu ar ran Aelodau neu drydydd parti.
Bydd "Hyrwyddwyr" yn golygu Aelodau a enwebwyd/benodwyd gan Hyb Busnes Blaenau Gwent i roi cyngor am ddim i Aelodau.
NEWIDIADAU I'R TELERAU HYN
Gallwn ddiwygio'r telerau defnydd hyn ar unrhyw amser drwy newid y telerau hyn fel y'u nodir yma.
Gofynnir i chi wirio'r dudalen hon o bryd i'w gilydd i weld unrhyw newidiadau a wnaethom, gan eu bod yn eich rhwymo ac y byddant yn dod i rym o'r amser y cânt eu cyhoeddi gyntaf ar y Safle.
NEWIDIADAU I'N SAFLE
Gallwn ddiweddaru'r Safle o bryd i'w gilydd, a gallwn newid y cynnwys ar unrhyw adeg. Fodd bynnag, gofynnir i chi nodi y gall peth o gynnwys ein safle fod allan o ddyddiad ar unrhyw amser penodol, ac nid oes arnom unrhyw oblygiad arnom i'w ddiweddaru.
Nid ydym yn gwarantu y bydd y Safle hwn, nag unrhyw gynnwys arno, yn rhydd o gamgymeriadau neu wallau.
MYNEDIAD I'N SAFLE

Mae'r Safle hwn ar gael yn rhad ac am ddim.
Nid ydym yn gwarantu y bydd y safle, ac unrhyw gynnwys arno, ar gael bob amser neu na fydd ymyriad arno. Caniateir mynediad i'n safle ar sail dros dro. Gallwn ohirio, dileu, atal neu newid y cyfan neu unrhyw ran o'r Safle heb roi rhybudd. Ni fyddwn yn atebol i chi os nad yw'r safle ar gael am unrhyw reswm ar unrhyw amser neu am unrhyw gyfnod.
Rydych yn gyfrifol am wneud yr holl drefniadau angenrheidiol i chi gael mynediad i'r Safle.
Rydych hefyd yn gyfrifol am sicrhau fod pawb sy'n cael mynediad i'r safle drwy eich cysylltiad rhyngrwyd yn gwybod am y telerau defnydd hyn a thelerau ac amodau eraill perthnasol, a'u bod yn cydymffurfio gyda nhw.
Rhaid i chi fod dros 18 oed i ddefnyddio'r safle yma. 

HAWLIAU EIDDO DEALLUSOL
Ni yw perchennog neu drwyddedai'r holl hawliau eiddo deallusol yn y Safle yma, a'r deunydd a gyhoeddir arni. Caiff y gweithiau hynny eu diogelu gan gyfraith hawlfraint a chytuniadau ar draws y byd. Cedwir pob hawl o'r fath.
• Rydych drwy hyn yn rhoi trwydded heb freindal, di-droi'n-ôl, hollol drosglwyddadwy, is-drwyddedadwy, anecsliwsif, am byth bythoedd a byd-eang i gopio, atgynhyrchu, storio, prosesu, newid, addasu, cyhoeddi, arddangos, dosbarthu, ymgorffori, trosglwyddo a  fel arall ddefnyddio eich rhestriad neu unrhyw ran ohono, yn unrhyw a phob cyfrwng sy'n bodoli yn awr neu a gaiff ei greu yn y dyfodol, fel y barnwn yn angenrheidiol. Ymhellach yr ydych drwy hyn yn cynrychioli ac yn gwarantu fod gennych yr holl grantiau angenrheidiol i ddyfarnu trwydded o'r fath.
• Rydych yn cytuno i ildio pob hawl moesol yng nghyswllt y Rhestriadau, yn cynnwys yr hawl i gael eich adnabod fel awdur y Rhestriadau a'ch hawl i wrthwynebu i driniaeth sarhaus o'r Rhestriadau. Rydych yn cytuno i wneud pob gweithred bellach sydd ei hangen i berffeithio unrhyw un o'r hawliau uchod a ddyfarnwyd gennych i ni, yn cynnwys cyflawni gweithredoedd a dogfennau, ar ein cais..
• Rydych drwy hyn yn cynrychioli a gwarantu eich bod yn berchen neu fel arall yn rheoli yr holl hawliau yn y Rhestriadau ac yn gwarantu na fydd y Rhestriadau yn:
Cynnwys unrhyw gamliwio, bod yn anghyfreithlon, enllibus, twyllodrus, hiliol, niweidiol, sarhaus, tramgwyddus, di-chwaeth, cas, camarweiniol neu o natur anllad neu fygythiol;
cynnwys firysau neu unrhyw raglenni neu dechnoleg arall a gynlluniwyd i ymyrryd neu achosi difrod i unrhyw feddalwedd neu galedwedd;
ymyrryd ar hawliau, yn cynnwys preifatrwydd a chyfrinachedd a hawliau eiddo deallusol, unrhyw drydydd parti ac y byddwch yn cael yr holl ganiatâd angenrheidiol gan drydydd part o'r fath cyn cyflwyno unrhyw ddeunydd trydydd parti i'r Safle;
achosi gofid, pryder, anghysur neu annifyrrwch diangen ar unrhyw aelod neu ddefnyddiwr arall o'r Safle neu fel arall ymyrryd ar ddefnydd neu fwynhad defnyddiwr o'r Safle;
effeithio'n negyddol ar enw, ewyllys da neu enw da Hyb Busnes Blaenau Gwent, y safle neu ein partneriaid masnachol.
Yr ydych drwy hyn yn cytuno i'n hindemnio a'n dal yn ddiniwed am ac yn erbyn unrhyw golled, atebolrwydd, iawndal, costau a threuliau, yn cynnwys costau cyfreithiol, cwynion, gweithredoedd, hawliadau neu drafodion yn deillio allan neu mewn cysylltiad gyda thorri eich gwarantau yn hyn.
Gallwch argraffu un copi a lawrlwytho detholiadau o unrhyw dudalen(ni) o'r Safle ar gyfer eich defnydd personol a gallwch dynnu sylw eraill o fewn eich sefydliad at gynnwys a ddowyd ar ein safle.
Rhaid i chi beidio addasu mewn unrhyw ffordd gopi papur neu gopi digidol unrhyw ddeunyddiau yr ydych wedi eu printio neu eu lawrlwytho, a rhaid i chi beidio defnyddio unrhyw luniau, ffotograffau neu bytiau fideo  neu sain neu unrhyw ddylunwaith ar wahân i unrhyw eiriad sy'n cyd-fynd ag ef.
Mae'n rhaid cydnabod bob amser ein statws (ac unrhyw gyfrannwyr a ddynodwyd) fel awduron cynnwys ar y Safle. 
Rhaid i chi beidio defnyddio unrhyw ran o'r cynnwys ar y Safle ar gyfer dibenion masnachol heb gael trwydded i wneud hynny gennym ni neu ein trwyddedwyr.
Os ydych yn printio, copio neu lawrlwytho unrhyw ran o'r safle yn groes i'r telerau defnydd hyn, bydd eich hawl i ddefnyddio'r Safle yn dod i ben ar unwaith ac mae'n rhaid i chi, ar ein dewis ni, ddychwelyd neu ddinistrio unrhyw gopïau a wnaethoch o'r deunyddiau.
DIM DIBYNIAETH AR WYBODAETH AC YMWADIAD

DIM DIBYNIAETH AR WYBODAETH AC YMWADIAD
Darperir y cynnwys y Safle ar gyfer gwybodaeth gyffredinol yn unig. Ni fwriedir iddo ffurfio cyngor y dylech ddibynnu arni. Mae'n rhaid i chi gael eich cyngor proffesiynol neu arbenigol eich hun cyn cymryd, neu ymatal rhag, unrhyw weithredu ar sail cynnwys y Safle.
Er ein bod yn gwneud ymdrechion rhesymol i ddiweddaru'r wybodaeth ar y safle, nid ydym yn gwneud unrhyw sylwadau na gwarantau, p'un ai'n eglur ne'n oblygedig, fod y cynnwys ar y Safle yn gywir, cyflawn neu gyfredol.
Nid yw'r Safle a'r Gwasanaethau mewn unrhyw ffordd yn cyfrif fel cyngor ar fuddsoddi, proffesiynol neu fasnachu ac nid ydynt ond llwyfan sy'n ddull o gyfathrebu gwybodaeth a ddarperir gan Aelodau ar y Safle. Nid yw Hyb Busnes Blaenau Gwent na'i asiantau neu gynrychiolwyr yn Bersonau Awdurdodedig (fel y nodir yn Adran 31 Deddf Gwasanaethau a Marchnadoedd Ariannol 2000) ac nid ydynt yn rhoi cyngor na'n hyrwyddiad o unrhyw natur ariannol.
• Nid yw Hyb Busnes Blaenau Gwent yn rhoi cyngor ar fuddsoddiad, trethiant, ariannol na busnes.
• Nid yw Hyb Busnes Blaenau Gwent yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am ganlyniadau unrhyw gamau a gymerwyd ar sail yr wybodaeth a roddir ar y Safle a phob gwarant, yn cynnwys gwarantau goblygedig o ansawdd boddhaol, ffitrwydd i'r diben, peidio torri a chywirdeb wedi eu heithrio i'r graddau llawnaf y gallant fod dan unrhyw gyfraith berthnasol.
• Yr ydych drwy hyn yn cydnabod y cafodd y Rhestriadau eu cyflenwi gan drydydd parti. Nid yw Hyb Busnes Blaenau Gwent yn gwarantu gwirionedd, dilysrwydd, cywirdeb, amseroldeb, cyflawnder neu ffitrwydd ar gyfer diben y Rhestriadau a/neu unrhyw ddata arall a ddarparwyd gan drydydd parti. Dylai defnyddwyr bob amser wneud eu hymholiadau manwl eu hunain i bob agwedd berthnasol o'r wybodaeth. Ni dderbynnir unrhyw gyfrifoldeb gan neu ar ein rhan am unrhyw gamgymeriadau, gwallau neu wybodaeth anghywir ar y Safle neu ei gynnwys (yn arbennig y Rhestriadau). Nid yw dim o'r wybodaeth a ddangosir yn y Rhestriadau yn sefydlu cynnig sy'n rhwymo y gall Defnyddiwr ei dderbyn.
• Mae'r holl wybodaeth, barnau a sylwadau o fewn y Rhestriadau yn rhoi Aelodau ac nid Hyb Busnes Blaenau Gwent ac ni dderbynnir unrhyw atebolrwydd am unrhyw niwed neu golled yn deillio o unrhyw gamau a gymerwyd gan drydydd parti fel canlyniad i edrych ar unrhyw Restriad.
• Caiff yr holl farnau a gwybodaeth ar y Safle neu a drosglwyddir gan Hyb Busnes Blaenau Gwent i Aelodau yn rhinwedd eu Haelodaeth eu darparu ar gyfer dibenion gwybodaeth yn unig ac ni fwriedir iddynt ffurfio rhan o unrhyw drafodiad neu benderfyniad buddsoddi.
CYFYNGU EIN HATEBOLRWYDD

Nid oes dim yn y telerau hyn yn eithrio neu'n cyfyngu ein hatebolrwydd am farwolaeth neu anaf personol yn deillio o'n hesgeulustod, neu ein twyll neu gamliwio twyllodrus, neu unrhyw atebolrwydd arall na all gael ei eithrio neu ei gyfyngu gan gyfraith Lloegr.
I'r graddau a ganiateir gan y gyfraith, rydym yn eithrio pob amod, gwarant, sylwad neu delerau eraill a all fod yn weithredol i'n safle neu unrhyw gynnwys arno, p'un ai'n eglur neu'n oblygedig.
Ni fyddwn yn atebol i unrhyw ddefnyddiwr ar gyfer unrhyw golled neu niwed, p'un ai mewn contract, camwedd (yn cynnwys esgeulustod), torri dyletswydd statudol, neu fel arall, hyd yn oed os y medrir ei ragweld, yn deillio dan neu mewn cysylltiad â:
• defnyddio, neu anallu i ddefnyddio'r Safle neu
• defnyddio neu dibyniaeth ar unrhyw gynnwys a ddangosir ar y Safle.
Fel defnyddiwr busnes, gofynnir i chi nodi na fyddwn yn neilltuol yn atebol am:
• colli elw, gwrthiant, busnes neu refeniw;
• ymyrryd ar fusnes;  
• colli data;
• diffyg arbedion disgwyliedig; 
• colli cyfle busnes, ewyllys da neu enw da; neu
• unrhyw golled neu niwed anuniongyrchol neu ganlyniadol. 

Ni fyddwn yn atebol am unrhyw golled neu niwed a achosir gan firws, ymosodiad gwrthod gwasanaeth a ddosberthir neu ddeunydd technolegol niweidiol arall a all heintio eich offer cyfrifiadur, rhaglenni cyfrifiadur, atal neu unrhyw ddeunydd perchnogol oherwydd i'ch defnydd o'r Safle neu i lawrlwytho gennych o unrhyw gynnwys arno, neu ar unrhyw wefan yn gysylltiedig ag ef.
Nid ydym yn tybio unrhyw gyfrifoldeb am gynnwys gwefannau yn gysylltiedig â'r Safle. Ni ddylai cysylltiadau o'r fath gael eu dehongli fel cymeradwyaeth gennym o'r gwefannau cysylltiedig hynny. Ni fyddwn yn atebol am unrhyw golled neu niwed a all ddeilio o'ch defnydd ohonynt.
• Er mwyn derbyn rhai o'r Gwasanaethau gennym, mae'n rhaid i chi gofrestru gyda ni i ddod yn Aelod. I wneud hynny bydd angen i chi roi gwybodaeth bersonol neilltuol yn cynnwys ond heb ei gyfyngu i'ch enw a chyfeiriad e-bost dilys ac unrhyw fanylion eraill y gallwn fod eu hangen gennych fel rhan o'r broses gofrestru ac mae'n rhaid i chi gytuno i ni brosesu eich gwybodaeth bersonol, yn unol gyda'n Polisi Preifatrwydd (cyfyngedig i Bolisi Preifatrwydd). Os nad ydych yn cytuno gyda'r telerau ac amodau ein Polisi Preifatrwydd, ni ddylech greu cyfrif gyda ni ac ni chewch ddefnyddio'r Safle neu'r Gwasanaethau.
• Rydych yn gyfrifol am sicrhau fod yr wybodaeth (yn cynnwys yr wybodaeth bersonol) a ddarparwch pan fyddwch yn cofrestru yn gywir ac yn gyflawn ac yn ein hysbysu am unrhyw newidiadau i'r wybodaeth honno. Gallwch gael mynediad i'r wybodaeth a diweddaru'r wybodaeth a roddwn i chi drwy fynd i'ch cyfrif Aelod ar y Safle.
• Rydych yn gyfrifol am bob defnydd o, ac am ddiogelu cyfrinachedd y manylion mewngofnodi ar gyfer eich cyfrif ac ni chewch rannu eich manylion cyfrinair gyda neb. Os ydych yn methu cydymffurfio gyda'r goblygiadau uchod, ni fyddwn yn gyfrifol am unrhyw golledion a gewch fel canlyniad a byddwch yn gyfrifol am unrhyw golledion a achosir i ni oherwydd defnydd diawdurdod o'r fath. Rydych yn gyfrifol am yr holl gynnwys a bostiwyd a gweithgaredd sy'n digwydd dan eich cyfif p'un ai a wnaethoch bostio'r cynnwys hwnnw eich hunan neu ymwneud yn bersonol yn y gweithgaredd hwnnw. Mae'n rhaid i chi ein hysbysu ar unwaith am unrhyw ddefnydd diawdurdod o'ch cyfrif neu urnhyw doriad arall o ddiogelwch parthed unrhyw drafodion a wnewch drwy'r Safle neu'r Gwasanaethau sy'n dod i'ch sylw. Ni chewch ddefnyddio cyfrif Aelod arall.

EICH DEFNYDD O'R  SAFLE
• Bydd yr holl wybodaeth a gyflwynir gan Aelodau i'w rhestru ar y Safle yn wir, onest ac na fwriedir iddi ddrysu neu dwyllo mewn unrhyw ffordd.
• Dylai aelodau bob amser fod yn gwybod am risgiau datgelu gwybodaeth gyfrinachol a dylai bob amser sicrhau fod cytundebau cyfrinachedd addas yn eu lle cyn datgelu unrhyw wybodaeth.
• Rydym yn cadw'r hawl i fonitro ac adolygu Rhestriadau ac i olygu, addasu, sensora, gwrthod neu ddileu, heb hysbysiad, unrhyw Restriad yr ydym yn ei ystyried, yn ein disgresiwn llwyr, i fod yn amhriodol, di-chwaeth neu'n groes i'r Telerau hyn. Fodd bynnag nid ydym yn ymgymryd i fonitro, adolygu, sensora neu sgrinio'r Safle neu unrhyw Restriad ac nid ydym yn derbyn unrhyw oblygiadau i wneud hynny.
• Caiff rhestriadau eu dangos ar y Safle yn y dull a'r fformat a benderfynir gan Hyb Busnes Blaenau Gwent.
• Byddwch yn cytuno na fyddwch yn:
defnyddio'r Safle mewn unrhyw ffordd a all achosi niwed neu ymyrryd ar gyfrifiadur defnyddiwr arall neu wneud unrhyw beth i ymyrryd, niweidio, amharu, arafu neu effeithio ar weithrediad y Safle heblaw i'r graddau y mae arafu neu effaith o’r fath ar weithrediad y Safle yn ganlyniad sy'n llifo'n naturiol o'ch defnydd arferol o'r Safle a/neu'r Gwasanaethau yn unol â'r Telerau hyn;
defnyddio'r Safle ar gyfer postio neu drawsnewid unrhyw ddeunydd sy'n annerbyniol yn anghyfreithlon, niweidiol, bygythiol, sarhaus, aflonyddgar, bychanol, aflednais, anllad, hiliol, ethnigol neu mewn modd arall;
hawlio bod eich defnydd o'r Gwasanaethau yn golygu unrhyw gysylltiad rhyngom ni a chi neu unrhyw Safle arall p'un ai drwy ddefnyddio dolenni gwefan neu unrhyw ddull arall;
atgynhyrchu, dyblygu neu gopïo’r Safle a/neu Wasanaethau neu werthu neu ymelwa ar y Gwasanaethau ar unrhyw ran ohonynt heb ganiatâd ysgrifenedig penodol, ac eithrio deunydd a ddynodwyd yn glir fel bod ar gael dan y Drwydded Llywodraeth Leol (OGL);
cymryd arnynt i fod yn berson neu'n gorff arall neu greu hunaniaeth ffals ar gyfer diben camarwain unrhyw Ddefnyddiwr neu Aelod arall am bwy yw'r anfonwr neu darddiad neges;
defnyddio gwybodaeth bersonol unrhyw Aelod arall ar gyfer dibenion heblaw sefydlu cysylltiad mewn modd a ddisgwylid yn rhesymol; ac
uwchlwytho, postio, cynnal, trosglwyddo neu fel arall wneud ar gael e-bost digymell, negeseuon SMS neu hysbysebu diawdurdod, deunyddiau hyrwyddo, "post sbwriel", "sbam", "llythyrau cadwyn", "cynlluniau pyramid" neu unrhyw negeseuon a gafodd eu dyblygu neu ddigymell.
EICH HAWLIAU I DDEFNYDDIO CYNNWYS Y SAFLE

• Rydym yn rhoi trwydded gyfyngedig ddiddymadwy i chi gael mynediad a defnyddio'r Safle a'r Gwasanaethau ar gyfer y dibenion y'u bwriedir ar eu cyfer, yn amodol ar eich cydymffurfiaeth gyda'r Telerau hyn. Os defnyddiwch y Safle mewn modd sy'n mynd tu hwnt i gwmpas y drwydded hon neu'n torri'r Telerau hyn mewn modd arall, gallwn derfynu eich cyfrif fel Aelod a diddymu'r drwydded a roddwyd i chi.
• Heblaw fel y nodir yn benodol yn y Telerau hyn neu a ganiateir ar y safle, ni chewch gopïo, atgynhyrchu, is-drwyddedu, ail-gyhoeddi, dosbarthu, trosglwyddo, perfformio'n gyhoeddus, dangos neu wneud ar gael, newid, addasu, ymyrryd gyda, creu gweithiau sy'n deillio o , ffugio neu ludo ar unrhyw wefan neu dudalen gwe arall, drwy unrhyw ffordd neu mewn unrhyw ddull, unrhyw gynnwys, gwybodaeth, deunydd, meddalwedd neu unrhyw eitemau eraill a ddarparwyd neu a wnaed ar gael ar neu drwy'r Safle a/neu'r Gwasanaethau, neu wneud unrhyw beth arall gyda chynnwys o'r fath. Rydych yn cydnabod y gall addasu unrhyw gynnwys, gwybodaeth, deunydd, meddalwedd neu unrhyw eitemau neu ddefnydd o unrhyw un o'r un fath ar gyfer unrhyw ddiben na chaniateir yn benodol gan y telerau ac amodau hyn dorri ar ein hawlfraint ni ac eraill a hawliau perchnogol eraill.
HYRWYDDWYR (drwy gefnogaeth 1 i 1)
• Bydd pob ateb a chyngor a gynigir gan Hyrwyddwyr yn ddiduedd, heb oblygiad a heb ragfarn. Drwy gydnabod y telerau ac amodau hyn rydych yn derbyn bod y gwasanaeth Hyrwyddwyr yn ymgynghoriad rhad ac am ddim ac nad oes unrhyw oblygiad ar y naill barti na'r llall a dim contract gwasanaethau ffurfiol. Nid yw'r Hyrwyddwyr, Hyb Busnes Blaenau Gwent ac unrhyw gymdeithion yn derbyn unrhyw atebolrwydd am ddarparu'r gwasanaeth hwn.
• Argymhellir eich bod yn ystyried y cyngor yn ofalus ac yn bodloni eich hun ar p'un ai yw'r cyngor yn addas ar gyfer eich amgylchiadau cyn i chi weithredu arno. Dylech bob amser ofyn am gyngor gan drydydd parti os ydych yn ansicr.
• RHAID I CHI BEIDIO cynnig gwybodaeth ariannol benodol, gwybodaeth sy'n sensitif yn fasnachol neu gyfeirio at unrhyw drydydd parti yn ôl eu henw yn ystod eich gohebiaeth.
• Os ydych yn ceisio sicrwydd ac eglurdeb parthed cyngor busnes penodol, rydym yn cynghori eich bod yn edrych am gwnsel ar dâl fydd yn dod gyda'u telerau ac amodau eu hunain a gytunir rhyngoch.
FIRYSAU

Nid ydym yn gwarantu y bydd y Safle yn ddiogel neu'n rhydd rhag gwallau neu firysau. Chi sy'n gyfrifol am gyflunio eich technoleg gwybodaeth, rhaglenni cyfrifiadur a llwyfan er mwyn cael mynediad i'r Safle. Dylech ddefnyddio eich meddalwedd diogelu firws eich hun.
Rhaid i chi beidio camddefnyddio ein safle drwy'n wybyddus gyflwyno firwsau, firwsau Troea, bomiau rhesymeg neu ddeunydd arall sy'n faleisus neu'n niweidiol yn dechnolegol. Rhaid i chi beidio cael mynediad diawdurdod i'r safle, y serfiwr y caiff ein safle ei gadw arno neu unrhyw serfiwr, cyfrifiadur neu gronfa ddata sy'n gysylltiedig â'r Safle. Rhaid i chi beidio ymosod ar ein safle drwy ymosodiad gwrthod gwasanaeth neu ymosodiad gwrthod gwasanaeth dosbarthedig. Drwy dorri'r ddarpariaeth hon, byddech yn cyflawni trosedd dan Ddeddf Camddefnyddio Cyfrifiaduron 1990. Byddwn yn hysbysu'r awdurdodau gorfodaeth y gyfraith perthnasol am unrhyw doriad o'r fath a byddwn yn cydweithredu gyda'r awdurdodau hynny drwy ddatgelu wrthynt pwy ydych. Mewn toriad o'r fath, bydd eich hawl i ddefnyddio'r Safle yn dod i ben ar unwaith.
DOLENNI GYDA'R SAFLE

Gallwch osod dalen i'n tudalen gartref cyn belled â'ch bod yn gwneud hynny mewn ffordd sy'n deg a chyfreithlon ac nad yw'n achosi niwed i'n henw da nac yn manteisio arno.
Rhaid i chi beidio sefydlu cyswllt mewn ffordd sy'n awgrymu unrhyw fath o gysylltiad, cymeradwyaeth neu ganmoliaeth ar ein rhan lle nad oes dim yn bodoli.
Rhaid i chi beidio gosod dolen i'r Safle mewn unrhyw wefan nad yw'n eiddo i chi.
Rhaid i'r Safle beidio gael ei fframio ar unrhyw safle arall ac ni chewch greu dolen i unrhyw ran o'n safle heblaw'r dudalen gartref.
Rydym yn cadw'r hawl i ddileu'r caniatâd i osod dalen heb rybudd.
CYSYLLTIADAU TRYDYDD PARTI AC ADNODDAU YN EIN SAFLE

Lle mae'r Safle'n cynnwys dolenni i safleoedd eraill ac adnoddau a ddarperir gan drydydd parti, caiff y dolenni hyn eu darparu er gwybodaeth i chi yn unig.
Nid oes gennym unrhyw reolaeth dros gynnwys y safleoedd neu adnoddau hynny ac nid ydym yn cymeradwyo safleoedd o'r fath.

TERFYNIAD
Rydym yn cadw'r hawl i derfynu neu atal y cytundeb hwn a/neu eich cyfrif Defnyddiwr a/neu'ch mynediad i'r Safle a/neu'r Gwasanaethau ar unrhyw amser ar ein disgresiwn llwyr heb rybudd, a heb ymrwymiad i chi.
Bydd terfynu eich cyfrif yn arwain at ddileu eich cyfrif a fforffedu'r holl gynnwys yn eich cyfrif. Rhaid i unrhyw berson sydd â chyfrif o'r fath wedi ei atal neu ei derfynu beidio ail-gofrestru ar y Wefan heb ein cydsyniad blaenorol.
CYFNOD A THERFYNU
Bydd y cytundeb hwn yn parhau mewn grym llawn tra defnyddiwch y Wefan. Gallwch derfynu’r cytundeb hwn drwy ddilyn y cyfarwyddiadau ar y '[dudalen gosodiadau cyfrif]'. Gallwn derfynu eich defnydd o'r Wefan ar unrhyw amser heb rybudd.
CYFRAITH BERTHNASOL
Os ydych yn ddefnyddiwr, gofynnir i chi nodi y caiff y telerau defnydd hyn, y deunydd pwnc a'i ffurfiad, eu llywodraethu gan gyfraith Lloegr. Cytunwch chi a ninnau y bydd gan lysoedd Lloegr a Chymru awdurdodaeth anescliwsif.
Os ydych yn fusnes, caiff y telerau defnydd hyn, y deunydd pwnc a'i ffurfiad (ac unrhyw anghydfodau neu hawliadau heb ymwneud â chontract) eu rheoli gan gyfraith Lloegr. Cytunwn ni a chithau i awdurdodaeth essliwsif llysoedd Lloegr a Chymru.
CYSYLLTU Â NI
Os oes gennych gwestiynau, cwynion neu sylwadau am y Safle a/neu'r gwasanaeth, gadewch i ni wybod os gwelwch yn dda drwy gysylltu â ni yn business@blaenau-gwent.gov.uk neu ar (01495 355700) yn ystod oriau busnes arferol. 

Diolch i chi am ymweld â'r Safle.