Mewngofnodi
Wedi anghofio cyfrinair?
Yn ôl at yr holl newyddion

Yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch: Dysgu ar-lein am ddim i gyflogwyr

Yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch: Dysgu ar-lein am ddim i gyflogwyr

Cofrestrwch ar gyfer dysgu ar-lein am ddim gan ymgyrch Working Minds yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE). 

Mae’r cwrs dysgu byr ar-lein newydd yn cynnwys 6 modiwl byr sy’n eich arwain fesul cam, gydag offer buddiol a senarios bob dydd y gallwch uniaethu â nhw ar hyd y ffordd.

Mae gemau a chwisiau wedi cael eu paratoi trwy gydol y cwrs i gadw pethau’n ddiddorol, ac nid yw’n cymryd mwy nag awr i’w gwblhau, yn nodweddiadol. 

Byddwch yn dod i ddeall yr hyn y mae’r gyfraith yn ei ofyn gan gyflogwyr, a beth mae angen i chi ei wneud i gydymffurfio.