Mewngofnodi
Wedi anghofio cyfrinair?
Yn ôl at yr holl newyddion

Rheoliadau Ailgylchu yn y Gweithle

Mae WRAP Cymru yn cynnal cyfres o weminarau i rannu cyngor ymarferol ar sut y gall eich gweithle baratoi ar gyfer y Rheoliadau Ailgylchu yn y Gweithle erbyn 6 Ebrill 2024.
 
Mae’r gweminarau wedi eu hanelu at weithleoedd yn y sectorau canlynol:
 
• Lleoliadau addysgol a phrifysgolion
• Adloniant a hamdden 
• Digwyddiadau 
• Lletygarwch
• Lleoliadau preswyl
• Manwerthu 
• Busnesau bach a chanolig
• Casglu gwastraff

Mae rhagor o wybodaeth am y gweminarau a sut i gofrestru i’w gweld yma:
Y Busnes o Ailgylchu Canllawiau ar gyfer holl weithleoedd (wrapcymru.org.uk)
Mae 'Casglu Deunyddiau Gwastraff ar wahân ar gyfer Ailgylchu - Cod Ymarfer i Gymru' bellach wedi'i gyhoeddi yn: Casglu deunyddiau gwastraff ar wahân ar gyfer ailgylchu: cod ymarfer Cymru | LLYW.CYMRU Mae'r Cod yn ganllaw ymarferol ar gyfer gwybodaeth ar sut y gall safleoedd annomestig gydymffurfio â'r Rheoliadau Ailgylchu yn y Gweithle erbyn 6 Ebrill 2024.
Gellir dod o hyd i wybodaeth gyfredol am y diwygiadau, yr offer a'r adnoddau yma: Ailgylchu yn y gweithle | LLYW.CYMRU®, gan gynnwys canllawiau ar gyfer gweithleoedd a chasglwyr gwastraff. Bydd rhagor o adnoddau yn cael eu hychwanegu drwy gydol 2024 felly edrychwch eto ar y dudalen hon.   

 Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y newidiadau arfaethedig i sut mae gweithleoedd yn didoli eu deunyddiau gwastraff i'w hailgylchu ac yn rheoli eu casgliadau, cysylltwch â ni:

E-bost:  AilgylchuYnYGweithle@llyw.cymru 

Drwy'r post:
Yr Is-adran Effeithlonrwydd Adnoddau ac Economi Gylchol
Llywodraeth Cymru
Adeiladau'r Goron
Caerdydd,
CF10 3NQ.