Mewngofnodi
Wedi anghofio cyfrinair?
Yn ôl at yr holl newyddion

Grant Rhwystrau rhag Dechrau Busnes ar gyfer pobl 25 oed a Hŷn

Mae'r Grant Rhwystrau rhag Dechrau Busnes ar gyfer pobl 25 oed a hŷn yn grant dewisol a ddarperir gan Lywodraeth Cymru i ddarparu cymorth ariannol i unigolion sydd â rhwystrau i sefydlu busnes yng Nghymru.  

Nod y grant yw galluogi unigolion economaidd anweithgar a di-waith 25 oed a hŷn i gychwyn busnes yng Nghymru a bydd yn targedu’n benodol yr unigolion hynny sy'n wynebu rhwystrau o ran dechrau busnes a’r farchnad gyflogaeth.

Mae grant o hyd at £2,000 ar gael i helpu unigolion gyda'r costau hanfodol sy’n gysylltiedig â dechrau'r busnes. Wrth ddarparu'r grant hwn, mae Llywodraeth Cymru yn buddsoddi ynoch chi a'ch cynnig busnes. Wrth gael mynediad i’r cyllid, byddwch yn derbyn cymorth i gychwyn busnes a bydd angen i chi brofi hyfywedd eich busnes newydd a’ch incwm arfaethedig yn eich cais.    

Dim ond ar gyfer gwariant refeniw y gellir defnyddio'r grant. Mae hyn yn golygu mai dim ond gwariant a fydd yn ymddangos yng Nghyfrif Elw a Cholled eich Busnes sy'n gymwys.

Y meini prawf cymhwysedd ar gyfer y grant hwn yw:

Rydych yn economaidd anweithgar neu'n ddi-waith 
Rydych yn bwriadu cychwyn busnes hunangyflogedig yng Nghymru
Mae gennych gynnig busnes hyfyw a fydd yn darparu digon o incwm personol
Darllenwch y nodiadau cyfarwyddyd yn ofalus ar gyfer manylion cymhwysedd llawn.

Bydd angen i ymgeiswyr gwblhau dogfen Mynegiant o Ddiddordeb (EOI) i ddechrau'r broses ymgeisio ac ar ôl ei chwblhau, rhaid dychwelyd y ddogfen gyda thystiolaeth o anweithgarwch economaidd neu ddiweithdra i Barriers4SUG@BusinessWales.org 

Cynhelir gwiriadau cymhwysedd cyn gwahodd ymgeiswyr i wneud cais llawn am y grant, gan gynnwys cwblhau o leiaf 6 awr o gymorth gan Busnes Cymru gan gynnwys digwyddiadau, gweithdai a chefnogaeth 1:1 gan gynghorydd busnes.

Bydd Busnes Cymru yn defnyddio disgresiwn ar gyfer dyfarniadau grant yn seiliedig ar y dystiolaeth o angen a amlinellir mewn achos busnes a chais. Bydd gwiriadau diwydrwydd dyladwy yn cael eu cynnal ar y manylion a ddarperir yn eich cais i sicrhau bod arian yn cael ei fuddsoddi mewn cynigion busnes cymwys a hyfyw. Darllenwch yn ofalus y Telerau ac Amodau sy’n berthnasol i’r grant yr ydych yn gwneud cais amdano.

Mae'r Grant Rhwystrau rhag Dechrau Busnes ar gyfer pobl 25 oed a hŷn yn agored i Fynegiadau o Ddiddordeb o 12fed Ionawr a rhaid cyflwyno ceisiadau llawn erbyn 15fed Mawrth 2024.  Fodd bynnag, os bydd yr arian wedi cael ei ddefnyddio'n llawn cyn y dyddiad hwn, bydd y cynllun yn cau.

Os bydd gennych unrhyw gwestiynau cyn gwneud cais neu os bydd gennych unrhyw bryderon na fyddwch efallai'n gallu cymryd rhan yn y broses ymgeisio neu gynllunio busnes am resymau iaith, meddygol, technegol neu ofalu, cysylltwch â Busnes Cymru ar 03000 6 03000, i drafod sut y gallwn eich helpu.

Os ydych o dan 25 oed, mae'r Grant Dechrau Busnes Pobl Ifanc yn agored i geisiadau  ar hyn o bryd.