
07/08/2024
Mae Innovate UK yn cynnig hyd at £25 miliwn mewn benthyciadau i alluogi busnesau micro, bach a chanolig i gynnal prosiectau ymchwil a datblygu cyfnod hwyr hynod o arloesol sydd â llawer o botensial ar gyfer y dyfodol. Bydd y prosiectau llwyddiannus yn dangos bod llwybr amlwg tuag at fasnacheiddio a chael effaith economaidd.
Mae'n rhaid i'ch prosiect arwain at greu cynnyrch, prosesau, neu wasanaethau newydd arloesol sydd gam sylweddol ymlaen o’r hyn sydd ar gael ar hyn o bryd, neu gynnig defnydd arloesol o gynhyrchion, prosesau, neu wasanaethau sy'n bodoli eisoes. Gallai hefyd gynnwys model busnes newydd neu arloesol.