Mewngofnodi
Wedi anghofio cyfrinair?

Tîm Busnes ac Arloesi

Mae Uned Datblygu Economaidd y Cyngor mewn cysylltiad agos â busnesau lleol o gwmnïau bach i gyflogwyr mwy a mentrau cymdeithasol.

Tîm Busnes ac Arloesi

Mae'r Tîm Busnes ac Arloesi yn ymgysylltu'n weithredol â busnesau lleol o fentrau bach i gyflogwyr mwy a mentrau cymdeithasol.

Nod ein model ymgysylltu â busnes yw darparu rhyngweithio rhagweithiol a gwerth ychwanegol. Gyda chymorth pecyn meddalwedd rheoli cleientiaid uwch, gallwn wybod a deall mwy am fusnesau lleol ac ymateb i'w hanghenion. Gallwn ddarparu lefelau gwahanol o ymyrraeth wrth reoli ymholiadau neu faterion busnes. Gall hyn gynnwys cymorth un i un, cysylltu ag adrannau mewnol y Cyngor, neu wneud cyfeiriadau at bartneriaid allanol. Byddwn yn ymdrechu i helpu, tra'n ceisio cadw busnesau'n ymwybodol o'r mentrau cymorth sydd ar gael iddynt.

Yn ogystal, gallwn gefnogi busnesau i gael mynediad ac adeiladu cadwyni cyflenwi lleol trwy ddatblygiad parhaus cronfa ddata leol gynhwysfawr, cyfleoedd rhwydweithio, digwyddiadau a chyflwyniadau rhagweithiol.