Mae amrywiaeth o unedau diwydiannol a thir masnachol ledled Blaenau Gwent. Mae cyfleusterau swyddfa ansawdd uchel hefyd ar gael mewn gwahanol leoliadau yn cynnwys canol trefi, stadau diwydiannol, parciau busnes ac o fewn cyfleusterau gweithlu a gaiff eu rheoli. Mae Uned Datblygu Economaidd y Cyngor yn cadw cronfa ddata gynhwysfawr o dir ac eiddo o fewn yr ardal, sydd mewn perchnogaeth gyhoeddus a hefyd berchnogaeth breifat, ac yn gysylltiedig gyda Hyb Busnes Blaenau Gwent.
Mae nifer o safleoedd yn manteisio o statws Parth Menter - gweler y ddolen am fwy o fanylion.
Gallwch chwilio am safleoedd neu adeiladau sydd ar gael drwy adran eiddo yr Hyb.
Asiantau a Landlordiaid ...
Os oes gennych eiddo busnes neu dir masnachol i'w rentu neu ei werthu, gellir cynnwys eich manylion ar ein cronfa ddata eiddo drwy gofrestru ar PPCMS ('Property Pilot Content Management System'). Mae PCCMS yn ddull sy'n galluogi asiantau eiddo masnachol i gyhoeddi gwybodaeth eiddo ar wefan Property Plot a safleoedd eraill rhestru eiddo, yn cynnwys Hyb Busnes Blaenau Gwent. I lanlwytho neu ddiweddaru manylion eiddo ar yr Hyb cliciwch yma i fewngofnodi neu gofrestru.