Hwyluso Menter
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent yn darparu gwasanaethau Hwyluso Menter® yn seiliedig ar egwyddorion Sirolli Institute.
Mae Sirolli Institute yn sefydliad nid-er-elw rhyngwladol sy’n addysgu arweinwyr cymunedol sut i sefydlu a chynnal prosiectau Hwyluso Menter yn eu cymuned. Mae Sirolli Institute yn arbenigo mewn dulliau ymatebol at ddatblygiad economaidd lleol sy'n tyfu'r gymuned o'r tu mewn; ei nod yw trawsnewid pobl angerddol yn entrepreneuriaid llwyddiannus, trwy adeiladu timau o gymhwysedd o'u cwmpas.
Blaenau Gwent oedd y prosiect cyntaf yng Nghymru i fabwysiadu model Hwyluso Menter Sirolli®. Y bwriad oedd i'r prosiect ategu gwasanaethau cymorth busnes a menter traddodiadol a ddarperir gan yr Awdurdod Lleol a sefydliadau eraill megis Busnes Cymru.
Mae Hwyluswyr Menter Blaenau Gwent, Callum a Ryan, ar gael i ddarparu cymorth busnes cyfrinachol a arweinir gan y gymuned i holl fusnesau newydd a busnesau presennol ym Mlaenau Gwent. I drefnu cyfarfod gyda’r Hwyluswyr Menter anfonwch eich ymholiad a’ch manylion cyswllt i: Business@blaenau-gwent.gov.uk