Mewngofnodi
Wedi anghofio cyfrinair?

Grant Twristiaeth Busnes

Cymorth grant i fusnesau newydd a phresennol

Grant Twristiaeth Busnes

Nod y Grant yw cefnogi twf a datblygiad busnesau newydd a phresennol o fewn y sectorau Lletygarwch a Thwristiaeth, ar yr amod bod y prosiect yn bodloni un neu fwy o amcanion allweddol y prosiect.

Mae'r grant yn ddewisol a gall ddarparu hyd at 50% o wariant cymwys, hyd at uchafswm cymorth o £50,000. Y grant lleiaf sy'n daladwy yw £1,000.00.

Gall y grant ariannu costau gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, bwyntiau gwefru cerbydau trydan, uwchraddio systemau goleuo/gwresogi presennol i opsiynau gwyrdd; Deunyddiau marchnata, Gwefan a safle e-fasnach; cyfleusterau ensuite newydd, mwy o gapasiti, ac uwchraddiadau.

Bydd yn ofynnol i bob ymgeisydd ddarparu gwybodaeth ariannol ac unrhyw wybodaeth arall sydd ei hangen i gefnogi eu cais.

I gael rhagor o fanylion ac i wirio cymhwysedd 

Ariennir y prosiect hwn gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU.