Mewngofnodi
Wedi anghofio cyfrinair?

Grant Menter Gymdeithasol

Mentrau cymdeithasol newydd a phresennol

Grant Menter Gymdeithasol

Nod y grant yw cefnogi twf a datblygiad Mentrau Cymdeithasol newydd a phresennol yn y Fwrdeistref ar gyfer costau Cyfalaf a Refeniw dros y ddwy flynedd nesaf (2023 -2025).

Mae'r grant yn ddewisol a gall ddarparu hyd at 50% o'r gwariant cymwys ar gyfer prosiectau cyfalaf a refeniw. Bydd uchafswm y grant yn dibynnu ar lefel y gyllideb sydd ar gael ar adeg y ceisiadau. Y grant lleiaf sy'n daladwy yw £2,500.

Gall y grant ariannu costau gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, beiriannau ac offer, systemau sy'n lleihau ôl troed carbon ac yn gwella effeithlonrwydd, costau staff ar gyfer gweithwyr newydd, hyfforddiant - ar-lein ac yn bersonol, cymorth cyfryngau cymdeithasol, achrediadau, marchnata, ffioedd ymgynghori.

Bydd yn ofynnol i bob ymgeisydd ddarparu gwybodaeth ariannol ac unrhyw wybodaeth arall sydd ei hangen i gefnogi eu cais.

I gael rhagor o fanylion ac i wirio cymhwysedd

Ariennir y prosiect hwn gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU.