Mewngofnodi
Wedi anghofio cyfrinair?

Grant Datblygu Busnes

Cymorth grant i fusnesau newydd a phresennol

Grant Datblygu Busnes

Nod y grant yw cefnogi twf a datblygiad Busnesau Bach a Chanolig (BBaCh) sydd wedi'u lleoli ym Mlaenau Gwent.

Mae cyllid ar gael i bob sector ar yr amod bod y prosiect yn bodloni un neu fwy o amcanion allweddol y prosiect.

Mae'r grant yn ddewisol a gall ddarparu hyd at 50% o wariant cymwys, hyd at uchafswm cymorth o £50,000. Y grant lleiaf sy'n daladwy yw £2,500.

Gall y grant ariannu costau gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, beiriannau ac offer, systemau sy'n lleihau ôl troed carbon ac yn gwella effeithlonrwydd, hyfforddiant, achrediadau, marchnata, ffioedd ymgynghori.

Bydd yn ofynnol i bob ymgeisydd ddarparu gwybodaeth ariannol ac unrhyw wybodaeth arall sydd ei hangen i gefnogi eu cais.

I gael rhagor o fanylion ac i wirio cymhwysedd 

Ariennir y prosiect hwn gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU.