Caiff y Prosiect Cydlynu Cyflogaeth ei ariannu gan Lywodraeth Cymru a'i gefnogi gan Barth Menter Glynebwy. Diben y prosiect yw sefydlu cronfa cyflogaeth a arweinir gan alw ac sy'n barod i'r gwaith sy'n diwallu anghenion y sectorau gweithgynhyrchu, peirianneg ac adeiladu lleol. Mae'r Swyddogion Cydlynu Cyflogaeth, yn seiliedig o fewn Gwasanaeth Adfywio y Cyngor, yn gyfrifol am ddarparu cymorth recriwtio a hyfforddiant i fusnesau a mewnfuddsoddwyr y dyfodol.
Ar gyfer cyflogwyr, gall y Prosiect Cydlynu Cyflogaeth
- Ddarparu cymorth am ddim i ddiwallu gofynion recriwtio
- Cyfateb gweithwyr medrus lleol gyda chyfleoedd busnes
- Darparu llafur lleol drwy gronfa ddata sgiliau Blaenau Gwent
- Cynnig cyngor ar gyllid
- Dynodi hyfforddiant i gynyddu sgiliau'r gweithlu presennol a gwneud atgyfeiriadau priodol
- Darparu opsiynau ar gyfer hyfforddiant masnachol penodol i anghenion busnes
- Monitro cynnydd gweithwyr cyflogedig a gaiff eu lleoli
- Cyfeirio at gymorth busnes a rhwydweithiau ehangach
Ar gyfer preswylwyr lleol sy'n edrych am waith neu gyfleoedd newydd, gall y Prosiect Cydlynu Cyflogaeth:
- Ychwanegu eich CV at gronfa ddata sgiliau Blaenau Gwent
- Gweithio gyda chyflogwyr lleol a phartneriaid i ddynodi cyfleoedd gwaith gyda ffocws ar y sector gweithgynhyrchu
- Eich hysbysu am swyddi gwag perthnasol sydd ar y gweill
- Darparu technegau paratoi ar gyfer cyfweliad drwy gymorth partneriaid
- Eich cyfeirio at ddarparwyr hyfforddiant a sgiliau i ychwanegu at eich CV
- Mynychu digwyddiadau cyfleoedd i gyfathrebu cyfleoedd sydd ar y gweill
- Cyfateb gweithwyr lleol gyda chyfleoedd swydd