Mewngofnodi
Wedi anghofio cyfrinair?

CSCS – Cynllun Ardystiad Sgiliau Adeiladu

CSCS yw'r prif gynllun ardystiad sgiliau o fewn diwydiant adeiladu y Deyrnas Unedig.

Beth yw'r CSCS?

CSCS yw'r prif gynllun ardystiad sgiliau o fewn diwydiant adeiladu y Deyrnas Unedig.

Mae cardiau CSCS yn rhoi tystiolaeth fod yr hyfforddiant a'r cymwysterau angenrheidiol gan unigolion sy'n gweithio ar safleoedd adeiladu ar gyfer eu math o waith.

Mae'r rhan fwyaf o brif gontractwyr a chwmnïau mawr adeiladu tai angen i weithwyr adeiladu ar eu safleoedd fod â cherdyn CSCS dilys. Mae'r Swyddfeydd Cyffredinol, Glynebwy yn gartref Canolfan Brawf CSCS Blaenau Gwent. Gall y tîm yn y Swyddfeydd Cyffredinol roi cyngor am gynllun CSCS a'ch llywio drwy'r cais.

Mae modiwlau prawf adnewyddu CPCS hefyd ar gael.

I gael rhestr lawn o brofion cliciwch yma

I archebu eich lle neu gael mwy o wybodaeth ffoniwch y Swyddfeydd Cyffredinol ar 01495 356056 neu e-bost generaloffices@blaenau-gwent.gov.uk