Mewngofnodi
Wedi anghofio cyfrinair?

Anelu'n Uchel - Cymorth i Weithwyr Cyflogedig

Mae'r Rhaglen Rhannu Prentisiaeth ym Mlaenau Gwent yn brosiect strategol gyda nifer o bartneriaid; Parth Menter Glynebwy, Addysg, Diwydiant a Chyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent. Nod y rhaglen yw hybu datblygu sgiliau o fewn cwmnïau gweithgynhyrchu a pheirianneg i ddatblygu twf busnes, gan fynd i'r afael â diweithdra a darparu cyfleoedd uchelgeisiol ar gyfer pobl ifanc ar draws yr awdurdod lleol.

Sut mae'n gweithio?

  • Caiff prentisiaid eu cyflogi gan Anelu'n Uchel Blaenau Gwent a'u gosod gyda chwmni gweithgynhyrchu nawdd ar gyfer cyfnod y brentisiaeth (2-3 blynedd) yn dilyn proses ddethol a chyfweliad;
  • Caiff y llwybr dysgu ei gytuno gan y cwmni nawdd a'r prentis gyda Coleg y Cymoedd sef y partner cyflenwi y dyrannwyd cyllid iddynt;
  • Bydd prentisiaid yn symud o amgylch cyflogwyr i lenwi unrhyw fylchau mewn sgiliau; a
  • Bydd prentisiaid yn cael tâl uwch na'r isafswm cyflog prentisiaeth.

Gofynion mynediad

  •  16 - 24 oed
  • 5 TGAU Gradd A-C yn cynnwys pynciau STEM (Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg)
  • Pas Lefel A mewn pynciau STEM - yn arbennig Mathemateg a Gwyddoniaeth
  • Cychwyn ar VRQ
  • Wedi cwblhau Rhaglen Peirianneg Estynedig neu Llwybrau i Prentisiaethau
  • Cwblhau VRQ yn y coleg

I wneud cais am wybodaeth bellach cysylltwch â

Tara Lane ar 07805 759903 neu tara.lane@blaenau-gwent.gov.uk

Graham Rees ar 07814 458045 neu graham.rees@blaenau-gwent.gov.uk